|
Dylan Thomas - Alcoholiaeth a Marwolaeth
|
 |
Credir yn gyffredinol bod Dylan Thomas wedi marw o ganlyniad i
yfed gormod. Roedd hwn yn bendant yn ffactor cyfrannol, ond yr
achos mwyaf tebygol oedd gofal meddygol gwael yn ei oriau olaf.
Cyrhaeddodd Thomas yn Efrog Newydd am ei drydedd taith
ar 21ain Ebrill 1953 pan roedd yn cwblhau 'Dan y Wen Allt'.
Roedd y Prif Ddangosiad ar Fai 3ydd, 1953 yn Amgueddfa Fogg
yn Harvard.
Roedd ei ddyledion yn cynyddu a roedd y beilïaid yn ei
fygwth. Hefyd roedd ei iechyd yn dirywio yn ystod y cyfnod
yma. Roedd yn llewygu yn rheolaidd a chynghorwyd ef gan ei
Feddyg i ildio yfed. Yr unig ffordd amlwg allan o’r dyled
oedd taith ddarlith Americanaidd arall.
|
 |
Dechreuodd taith olaf Thomas o America ar 19eg Hydref 1953.
Roedd Thomas i fod cyfarwyddo ymarferion “Dan y Wen Allt” gyda
chast llawn. Er nad oedd ganddo’i iechyd, gymerodd rhan yr
adroddwr eto, fel y wnaeth ar Fai 13eg yn Efrog Newydd. Ar
Dachwedd 3ydd mynychodd barti, ond dychwelodd yn gynnar i
Westy’r Chelsea. Yn methu cysgu, gadawodd ei ystafell i fynd am
ddiod - yn ei eiriau ef -"eighteen straight whiskeys". Mae’n
bosib fodd bynnag, mai gorliwiad ydoedd.Cysgodd Dylan
tan y bore wedyn - y bedwaredd o Dachwedd. Pan ddihunodd, roedd
yn achwyn o anawsterau anadlu, ond er hynny, aeth gyda Elizabeth
Reitell am ddiod. Ar ôl cwpwl o ddiodydd, dychwelodd i’r Gwesty,
dal yn ddi-hwyl, galwyd ei feddyg Milton Feltenstein. Rhoddodd y
meddyg ACTH (steroid) i Thomas ond roedd dal mewn poen oherwydd
llid y cylla a gowt, felly dychwelodd y meddyg a rhoddwyd mwy o
feddyginiaeth i’r bardd.
Cysgodd Thomas eto, ond ddim yn dda a roedd yn achwyn ei fod
yn gweld pethau a dioddef o ddeliriwm. Galwyd y meddyg am y
trydedd tro a rhoddodd sedatif iddo – hanner gronyn o morphine
sulphate, dos annormal o uchel, gyda’r potensial i ladd wrth
ystyried cymhlethdodau anadlu’r bardd. Roedd hefyd yn anarferol
dros ben i weini’r fath cyhyr i leddfu llid y cylla a gowt.
Cyn i’r meddyg adael, cynghorwyd Reitell ni ddylid gadael
Thomas ar ben ei hun. Roedd hefyd yn pryderi byddai deliriwm
Thomas yn ei wneud yn aflywodraethus, felly awgrymodd y dylid
cael dyn yn bresennol hefyd. Galwodd hi Jack Heliker, arluniwr,
i aros gyda Thomas. Siaradodd Thomas gyda Heliker a Reitell wrth
iddo gysgu’n ysbeidiol. Sylwodd Reitell bod wyneb Thomas yn
troi’n las, felly alwodd Feltenstein eto. Galwodd ef ambiwlans
ac aethant â Thomas i ward Argyfwng Ysbyty St Vincent. Dyma pan
ffoniodd hi John Malcolm Brinnin. Asiant Thomas, a ddaeth ef ar
yr awyren cyntaf posib o Boston i Efrog Newydd a ddaeth yn syth
i’r ysbyty mewn tacsi.
Yn yr ysbyty, aeth Thomas mewn a mas o goma am bum niwrnod.
Bu farw ar Dachwedd 9fed 1953. Mae Caitlin yn nodi yn ei llyfr :
"Roedd Dylan o’r farn rhyfedd bod y beirdd gorau i gyd yn marw’n
ifanc a byddai ef byth yn cyrraedd pedwardeg, a roedd cyfnodau
pan oedd fel petai’n byw ei fywyd yn ôl y farn yma.( "Dylan had
this rather odd view that all the best poets died young and that
he himself would never make forty, and there were times when he
almost seemed to live his life by that")
 |
Nid canlyniad oedd marwolaeth Dylan fodd bynnag, o’i
or-yfed. Credir fod ganddo broblemau gyda balans siwgr y
gwaed, nid oedd wedi bwyta’n iawn am nifer o ddyddiau
cyn ei farwolaeth a roedd y meddyg a’i driniodd wedi
gweini chwistrelliad o gortison a morphine ar ddau
achlysur. Cyfuniad trasig o ddigwyddiadau achosodd
diwedd cynamserol i fywyd un o ysgrifenwyr a beirdd
mwyaf clodfawr Cymru.
Dychwelwyd ei gorff i Gymru a’i gladdwyd yn Nhalacharn.
|
|