Bywyd a gwaith cynnar Dylan Thomas

Click here for English version

                                                         

Mae gwreiddiau Dylan Thomas yn gorwedd yn ddwfn yn ne orllewin Cymru - Sir Gaerfyrddin a Sir Aberteifi a elwir yn Ceredigion heddiw. Mae ‘rhain yn siroedd roedd yn ei ddenu’n anorchfygol trwy gydol ei fywyd. Buodd yn byw mewn nifer o lefydd yn ystod ei fywyd byr gan gynnwys Llundain, Caint a Sussex, ond dychwelodd i Orllewin Cymru i gynhyrchu ei waith mwyaf ysgogol a chofiadwy - mwyaf enwog efallai oedd Ceredigion lle fuodd ei ymweliadau niferus â Chei Newydd a Thalsarn ymysg y rhai mwyaf cynhyrchiol yn ei yrfa ysgrifennu.
 
Cofir Thomas gan ran fwyaf o bobl am ei ddrama olaf 'Dan y Wen Allt'. Dechreuwyd hi yng Nghei Newydd a ysgrifennwyd rhan ohoni yn Southleigh ger Rhydychen a’i gorffennwyd yn Efrog Newydd munudau cyn ei pherfformiad cyhoeddus cyntaf. Mae 'Dan y Wen Allt' wedi ysgogi dadl hir yngl'n â pha dref sy’n fodel i 'Llareggub'. Mae’r awdur lleol David Thomas yn nodi bod nifer o’r cymeriadau (o Gei Newydd) wedi cael eu hysgrifennu tipyn cyn i Dylan Thomas ymweld â Thalacharn. Mae achos cryf gydag ef mai Cei Newydd oedd model 'Llareggub' tra bod yr enw 'Dan y Wen Allt' wedi dod o fferm 'Wernllaeth' lle oedd Dylan yn mynd gyda’i ffrind da, y Milfeddyg o Aberaeron, Tommy Herbert. Enwyd merch Dylan a Caitlin, Aeronwy ar ôl yr afon Aeron sy’n rhedeg trwy Ddyffryn Aeron i Aberaeron, y man lle dywed Dylan "oedd y man mwyaf gwerthfawr yn y byd".

Roedd Tad-cu Thomas yn gard 'Thomas y Gard' ar Reilffordd Great Western ac yn byw yn Nhre Ioan ger Caerfyrddin. Cafodd ei Dad David John Thomas ei addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth lle gafodd radd cyntaf yn Saesneg ar ôl ennill ysgoloriaeth yn 1895. Yn ddiweddarach aeth yn Uwch Athro Saesneg yn Ysgol Ramadeg Abertawe lle gofir amdano fel dyn llym gyda llais dwfn a soniarus. Roedd D. J. Thomas eisiau bod yn fardd, a theimlodd bod dysgu yn wastraff o’i dalent. Yn ei llyfr "Caitlin" disgrifiodd gwraig Dylan ef fel : " y dyn mwyaf anhapus rwyf yn ei adnabod ac roedd yn dangos yn ei wyneb. Roedd yn anhapus gyda’i fywyd. Roedd y bywyd oedd ganddo yn fywyd roedd wedi gobeithio osgoi, ac erbyn y diwedd roedd yn teimlo’i hun yn suddo nôl i’r bodolaeth honno roedd wedi ceisio dianc oddi wrthi." (Geiriau Caitlin...'the most unhappy man I have ever met and it showed in his face. He was unhappy with his life. It was exactly the kind of life that he had hoped not to have, and by the end he could feel himself sinking back into the very existence he had sought to escape'.) Mam Dylan oedd Florenc Hannah Williams - a gannwyd hi ar benrhyn Llansteffan ar draws y dwr o Dalacharn lle bu ei mab a’i wraig yn byw yn ddiweddarach.

Gannwyd Dylan Marlais Thomas ar Hydref 27, 1914 mewn stafell wely flaen yn llofft cartref newydd adeiledig ei rhieni yn 5 Rhodfa Cwmdonkin, Abertawe. Tu ôl y tŷ oedd yna lôn ac ochr arall i’r heol oedd Parc Cwmdonkin.

Mae’r enw Dylan wedi dod o’r Mabinogion, casgliad o straeon canoloesol Cymraeg. Mae ei enw canol, Marlais, yn enw ar nant ger man geni ei hen ewythr, y Pregethwr a Bardd Gwylim Marles Thomas. Roedd y Parch Thomas yn weinidog i’r Capel Undodaidd yn Llwyn Rhydowen ger Llandysul o 1860.
 

Dywedwyd bod Dylan wedi’i ysbrydoli gan y llennyrch deiliog a llwybrau cysgodol parc Cwmdonkin. Yn ei ddarllediad radio “Atgofion Plentyndod” mae’n sôn am bwysigrwydd y park a’i arwyddocâd yn ei fywyd cynnar. Mae’n ei ddisgrifio fel....."A world within the world of the sea town full of terrors and treasures a country just born and always changing and that park grew up with me.In that small, iron-railed universe of rockery, gravel-path, playbank, bowling-green, bandstand reservoir, chrysanthemum garden, ....in the grass one must keep off, I endured, with pleasure, the first agonies of unrequited love, the first slow boiling in the belly of a bad poem, the strutting and raven-locked self-dramatization of what, at that time seemed incurable adolescence."

Hefyd ysgrifennodd 'The Hunchback in the Park' am gymeriad a sylwodd arno yn ei ieuenctid. Gweler dau o’r saith pennill isod:

The Hunchback in the park
A solitary mister
Propped between trees and water
From the opening of the garden lock
Until the Sunday sombre bell at dark

 

Eating bread from a newspaper
Drinking water from the chained cup
That the children filled with gravel
In the fountain basin where I sailed my ship
Slept at night in a dog kennel
But nobody chained him up.

Mae’r ffynnon dal yn y parc (chwith). Ond mae’r cwpan yfed a ddisgrifiwyd fel 'chained tin drinking cup' wedi hen ddiflannu.

Treuliodd Thomas ei wyliau haf fel plentyn ar fferm laeth yn Sir Gaerfyrddin sef fferm chwaer ei fam, Ann Jones, a’i gwr Jim yn Llangain. Roedd y fferm 'Fern Hill' - gweler llun ar y dde - yn destun i gerdd o’r un enw. Heb os nac oni bai roedd ‘rhain yn amseroedd hyfryd, ac ysgrifenna amdanynt:
 

'And as I was green and carefree, famous among the barns
About the happy yard and singing as the farm was home,
In the sun that is young once only,
Time let me play and be
Golden in the mercy of his means,